Mae’r wefan yma’n cynnwys gwybodaeth ynglyn
â Chanolfan Awyr Agored Daerwynno a’r ardal
o’i chwmpas. Hen ffermdy deulawr wedi’i godi
o garreg ydy Canolfan Daerwynno. Mae’r ganolfan yng
Nghoedwig Gwynno Sant ger Ynys-y-bwl, Rhondda Cynon Taf,
yn y De.
Rydyn ni’n cynnig llawer o weithgareddau awyr agored
a chyrsiau addysgiadol ar hyd y flwyddyn gan gynnwys cyrsiau
cyfeiriadu, canwio, meithrin medrau gweithio’n rhan
o garfan ac astudio bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Mae’r goedwig sy’n amgylchynu’r ganolfan
yn fan delfrydol ar gyfer y gweithgareddau yma ac mae cronfa
ddwr brydferth Cwm Clydach nepell i ffwrdd hefyd.
Grwp Gweithgareddau Awyr Agored Cwm Clydach (elusen gofrestredig)
sy’n cynnal Canolfan Awyr Agored Daerwynno.
Dau o weithwyr amser llawn mae’r grwp yn eu cyflogi
ac mae carfan o wirfoddolwyr brwd yn gweithio gyda nhw i
reoli’r ganolfan a chynnal y gweithgareddau i gyd.
English-language website | click
here