Mae Canolfan Awyr Agored Daerwynno ar agor
yn ôl y galw ac ar hyd y flwyddyn. Chi sy’n
penderfynu hyd eich ymweliad - boed hynny’n ddiwrnod,
penwythnos neu wythnos - ac os byddwch chi eisiau gweithgareddau
sy wedi’u trefnu ymlaen llaw.
Gwirfoddolwyr sy’n cynnal y ganolfan felly does dim
modd inni warantu byddwch chi’n cael gwneud eich dewis
weithgareddau ond dydyn ni ddim yn siomi pobl yn aml.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni. Rown ni
wybod ichi ynglyn â phryd mae’n cyfleuster ar
gael a thrafod eich anghenion chi dros y ffôn neu
drwy ebost.
Mae pecyn gwybodaeth ar gael hefyd. Byddwn ni’n anfon
y pecyn atoch chi drwy’r post. Anfonwch neges ebost
aton ni i roi eich cais am becyn (gweler isod). Cofiwch
gynnwys eich cyfeiriad.
Cliciwch
yma i anfon neges ebost am becyn gwybodaeth.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed
oddi wrthoch chi...

Cliciwch yma i
fynd i frig y dudalen