Cyfarwyddiadau
O Bontypridd
Dilynwch yr arwyddion i ddod o hyd i ffordd B4273 i Ynys-y-bwl.
(Mae Ynys-y-bwl tua 3 milltir i’r gogledd o Bontypridd).
Ewch trwy bentref Ynys-y-bwl ac i gefngwlad. Ar ôl
milltir arall, trowch i’r chwith wrth yr arwydd i
Lynrhedynog.
Ewch ymlaen ar yr heol yma am filltir arall hyd nes ichi
gyrraedd tafarn ‘Brynffynnon’ (ar y chwith)
ac Eglwys Llanwynno (ar y dde). Trowch i’r dde, heibio
i’r eglwys ac ymlaen am 200 metr nes ichi gyrraedd
mynedfa Canolfan Daerwynno ar y dde (bydd bar ar draws
y fynedfa).
Ar ôl ichi fynd trwy’r mynediad, ewch ar hyd
y llwybr yn y goedwig am 300 o fetrau. Yna trowch i’r
dde a mynd i lawr y bryn i Ganolfan Gweithgareddau Awyr
Agored Daerwynno.
Cliciwch yma i weld map.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd
â chi...