amdanom ni Activiteis. Find out Daerwynno Outdoor Centre's activities, via the links on this page

Gweithgareddau

Croeso ichi bori’r wefan a chysylltu â ni trwy
anfon neges ebost,

daerwynno@btinternet.com
neu ffonio 01443 790768

Mae’r ganolfan yn gallu cynnig amrywiaeth o gyfleoedd addysg awyr agored. Rydyn ni’n teilwra’n rhaglen i ddiwallu’ch anghenion chi. Rydyn ni’n cynnig gweithgareddau ‘antur’ megis dringo, canwio neu gyfeiriadu neu rydyn ni’n cynnig gweithgareddau meithrin medrau gweithio’n rhan o garfan. Mae modd ichi ddefnyddio beiciau mynydd ond bydd rhaid ichi ddod â’ch beic eich hun. Byddwn ni’n cynnig pecynnau addysgiadol hefyd-megis astudiaethau ynglyn â’r amgylchedd ar gyfer grwpiau o blant iau. Mae’r rhan fwyaf o grwpiau sy’n dod i’r ganolfan yn trefnu i wneud dipyn o bopeth ond bydd eich amserlen yn dibynnu ar y tywydd, y staff fydd ar gael a’ch dewisiadau chi.

Rydyn ni wedi cynnal asesiad o risg o weithgareddau’r ganolfan i gyd ac mae cymhareb disgybl – hyfforddwr dda gyda ni, yn arbennig ar gyfer dringo a chanwio. Mae cymwysterau sy’n cael eu cydnabod ar hyd a lled y deyrnas mewn mynydda, dringo, canwio a beicio oddi ar y ffordd gyda rhai o’n staff. Mae tystysgrif cymorth cyntaf gyda’r rhan fwyaf o’n staff ac mae pob un sy’n gweithio gyda phlant ifainc wedi cael tystysgrif arbennig Swyddfa Cofnodion Troseddol. Rydyn ni’n defnyddio radio dwyffordd i gyfathrebu yn y goedwig.

Picture of sel-built raft on reservoir.

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen

Dyluniwyd y wefan gan Sara Melvin ar gyfer Neil Angove limited | www.neilangove.ltd.uk
© Grwp Gweithgareddau Awyr Agored Cwm Clydach 2006