Adeiladu tîm
Mae pob un o’n gweithgareddau adeiladu tîm
wedi’u paratoi i annog gweithio’n rhan o garfan
a meithrin hyder. Mae Canolfan Awyr Agored Daerwynno yn cyflwyno problem ymarferol i’r grwp
a rhaid i’r grwp ei datrys gyda’i gilydd yn
y ffordd fwyaf priodol. Does dim ffordd ‘gywir’
neu ‘anghywir’ i ddatrys y broblem. Yn hytrach,
cryfderau, gwendidau a chydberthynas y grwp sy’n llywio’r
broses.
Mae’r gweithgaredd yma’n addas ar gyfer pobl
o bob oed a gallu. Mae angen bod yn graff, gweithio’n
drefnus, cadw’ch cydbwysedd a meddu ar fedrau cyffredinol,
medrau cyfathrebu a bôn braich i gyrraedd y nod. Mae’r
heriau’n defnyddio offer syml ac yn cael eu cynnal
ar dir y ganolfan neu yn y goedwig.

Cliciwch
yma i fynd i frig y dudalen