Dringo
Yma yn Naerwynno mae unig graig ddringo awyr agored yr
ardal. Mae’r graig yn 4 metr o uchder ac yn addas
ar gyfer pobl o bob oed. Cewch chi ddringo â rhaff
neu heb raff neu abseilio. Mae dyfarniad ‘single pitch’
gyda’r arweinydd ynghyd â llawer o brofiad.
Rydyn ni’n darparu’r offer arbenigol i gyd gan
gynnwys helmedau, harneisiau, esgidiau dringo, y rhaffau
angenrheidiol i gyd, dolennau cyswllt (krabs) ac offer technegol.
Yn ogystal â’r graig ddringo, cewch chi ddringo
talcen y ty ac mae modd inni sefydlu cyrsiau yn y goedwig
hefyd.

Cliciwch yma i fynd
i frig y dudalen