Cyfeiriadu
Rydyn ni wedi sefydlu cwrs cyfeiriadu yn y goedwig i roi
prawf ar eich medrau cyfeiriadu. Mae’r cwrs o fewn
cilometr i’r ganolfan ac yn cymryd tua awr i’w
wneud. Mae’n addas ar gyfer oedolion a phlant.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael map a gwybodaeth
sylfaenol ynglyn â darllen map a materion diogelwch
yn y goedwig. Yna, bydd y cylch yn cael mynd i’r goedwig
i ddod o hyd i’r cliwiau. Bydd aelodau o’n staff
yn gwmni i’r grwpiau ond cyngor yn unig maen nhw’n
ei roi – fyddan nhw ddim yn dangos y ffordd ichi!
Mae’n radio dwy ffordd ni’n arbennig o ddefnyddiol
ar gyfer gweithgareddau cyfeiriadu, yn arbennig os ydyn
ni eisiau rhoi cyfarwyddydd i’r ganolfan i roi’r
tegell i ferwi!

Cliciwch yma i
fynd i frig y dudalen