Canwio, caiacio ac adeiladu rafft
Mae canwiau agored, caiaciau a’r offer diogelwch i
gyd gyda Chanolfan Gweithgareddau Awyr Agored Daerwynno.
Yn ogystal â hynny, mae’r ganolfan yn cynnig
gweithgaredd gweithio rafft lle gallwch gael cyfleoedd
i adeiladu rafft i’w hwylio.
Mae bod yn ddiogel yn y dwr yn flaenoriaeth ac mae cymhareb
disgybl-hyfforddwr dda gyda ni. Mae gyda’n hyfforddwyr
sy’n gweithio yn y dwr ac ar y lan gymwysterau sy’n
cael eu cydnabod ar hyd a lled y deyrnas. Bydd y rhan fwyaf
o weithgareddau yn y dwr yn cael eu cynnal yn ystod yr haf
gan ei bod hi’n oer yn ystod gweddill y flwyddyn ond
mae croeso i grwpiau o oedolion fentro i’r dwr ar
hyd y flwyddyn os dyna’u dymuniad.
Cliciwch yma i fynd
i frig y dudalen