Astudiaethau’r amgylchedd
Mae amgylchedd naturiol Daerwynno’n
fangre perffaith ar gyfer dod o hyd i amrywiaeth helaeth
o anifeiliaid a bywyd gwyllt. Mae’r gweithgareddau
rydyn ni’n eu cynnal yn gyfle i blant i fanteisio
ar gyfleoedd addysgiadol gwerthfawr mewn awyrgylch hwyl
a sbri.
Mae ein pyllau dwr, tir corsiog, coed, perthi a chreigiau’n
gartref i amrywiaeth helaeth o anifeiliaid, pryfed a phry
cop corynnod. Cewch chi ddal y rhain, pennu beth ydyn nhw
ac yna’u dychwelyd nhw i’w hamgylchedd naturiol.
Archwilio Pyllau Dwr
Mae dwy ffynnon naturiol yn llifo i’n
pwll dwr sy’n hafan i fywyd gwyllt. Mae’r pwll
dwr yn edrych yn llonydd ar yr olwg gyntaf ond o dan yr
wyneb mae amgylchedd cyffrous sy’n cynnwys amrywiaeth
enfawr o rywogaethau.
Helfa Anifeiliaid
Bach
Croeso ichi archwilio’n tir am chwilod, pry corynnod,
brogaod, madfallod a llawer o anifeiliaid eraill. Mae pob
coeden, boncyff, perth a chraig yn gartref i lu o anifeiliaid.
Adnabod Coed
Dewch am dro bach i’r goedwig a cheisio
adnabod amrywiaeth o goed trwy fwrw golwg dros eu dail,
boncyff, brigau a siâp cyffredinol.
Ymlith gweithgareddau eraill ynglyn â’r amgylchedd
mae gwneud blychau a chynhwyswyr bwydo ar gyfer adar a diogelu
bywyd gwyllt y cylch trwy godi sbwriel mae pobl wedi’i
daflu yn y goedwig a’i chyffiniau.

Cliciwch yma i
fynd i frig y dudalen