Mae i Ganolfan Daerwynno hanner erw o dir ac mae coedwig
Gwynno Sant yn gartref godidog iddi. Mae’r mynediad
i’r ganolfan ar yr heol rhwng Ynys-y-bwl a Glynrhedynog
nepell o Eglwys Gwynno Sant. Mae’r tir ar bridles
inni gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Mae Grwp Gweithgareddau Awyr Agored Cwm Clydach wedi bod
yn gweithio yng Nghanolfan Daerwynno ers 1996. Llwyddodd
y cylch o wirfoddolwyr i adnewyddu adfeilion yr hen ffermdy
ar ôl cael prydles gan y Comisiwn Coedwigaeth. Sylfaenol
ydy safon y cyfleusterau.
Gwirfoddolwyr a chanddyn nhw gymwysterau sy’n cael
eu cydnabod drwy’r deyrnas i gyd sy wedi bod yn cynnal
y gweithgareddau awyr agored ar gyfer amrywiaeth eang o
bobl. Roedd gwirfoddolwyr eraill yn rhoi cymorth i’r
hyfforddwyr yma ac roedden nhw hefyd yn gweithio tuag at
ennill y medrau a’r cymwysterau angenrheidiol. Llwyddon
nhw i ennill y rhain ac aeth y grwp o nerth i nerth. Mae
rhagor o wirfoddolwyr wedi ymuno â’r grwp dros
y blynyddoedd.
Mae’r galw am ddefnyddio’r ganolfan a’r
gweithgareddau sy wedi’u trefnu wedi cynyddu. Archebodd
dros 50 o gylchoedd / unigolion le yn y ganolfan yn 2005.
Roedd y rhain yn amrywio o sesiynau gyda’r hwyr i
wythnosau preswyl.
Mae cost archebu lle ar gyfer gweithgareddau, ffioedd aelodaeth,
achlysuron codi arian a rhoddion yn talu am gostau rhedeg
y ganolfan o ddydd i ddydd. Ein nod ydy cadw’n prisiau
yn isel gan ein bod ni’n awyddus i ddarparu cyfleusterau
ar gyfer cylchoedd cymuned.
Cliciwch yma i fynd
i frig y dudalen