Y staff
Mae carfan frwd o wirfoddolwyr ynghyd â dau o weithwyr
rhan-amser yn rheoli’r ganolfan o ddydd i ddydd. Maen
nhw’n arwain gweithgareddau, yn mynychu cyfarfodydd
pwyllgor bob mis, yn cynorthwyo i gynnal a chadw’r
ganolfan a’r tir o’i chwmpas ac yn cynnal arddangosfeydd
mewn canolfannau lleol.
Mae gwirfoddolwyr Daerwynno yn hanu o wahanol gefndiroedd.
Mae llawer ohonyn nhw’n athrawon ysgol a chanddyn
nhw brofiad o weithio gyda phobl ifainc. Mae gyda phob un
ohonyn nhw ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored ac
yn ymroí’n frwd i’r maes. Yn ogystal
â hynny, mae rhai o’n staff wedi ennill cymwysterau
mynydda, canwio a beicio mynydd sy’n cael eu cydnabod
ar hyd a lled y deyrnas. Mae meithrin arweinwyr ifainc wedi
bod yn nod i’r ganolfan erioed ac mae dau o bobl ifainc
wedi ennill gwobrau hyfforddi medrau caiac lefel 1.
Gan ein bod ni’n gweithio gyda phobl ifainc yn yr
awyr agored yn rheolaidd mae tystysgrifau arbennig Swyddfa
Cofnodion Troseddol gyda’n gweithwyr ynghyd â
thystysgrifau cymorth cyntaf.
Trwy ymdrechion parhaol ein gwirfoddolwyr, mae'r ganolfan
wedi mwynhau flynyddoedd o lwyddiant.

Cliciwch yma i fynd
i frig y dudalen