Ein partneriaid
Mae’r grwp yn aelod o Bartneriaeth Adfywio Cymuned
Ynys-y-bwl ac wedi bod yn rhan o gynllun i adfywio’r
ardal. Mae’n partneriaid wedi cydnabod y gwaith da
mae’n gwirfoddolwyr yn ei wneud i gynnal gweithgareddau
awyr agored tra mae’n nhw’n cynorthwyo i adfywio’r
ardal.
Rydyn ni’n cydweithio’n agos ag Ymddiriedolaeth
Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni wedi paratoi
taflenni sy’n nodi llwybrau trwy goedwig Gwynno Sant,
y llwybrau troed rydyn ni wedi’u gwella a phontydd
sy wedi’u codi yn yr ardal.
Diolch i gymhorthdal gan Gynllun Cyd Coed llwyddon ni i
godi’r graig ddringo yn 2003 ac yn fuan ar ôl
hynny rhoddodd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Maes Glo
gymhorthdal inni ar gyfer ariannu swyddog gweithgareddau
awyr agored rhan amser a bws mini. Cysyllton ni â
phartneriaeth Amgylchedd Cymru yn 2005 a chael cymhorthdal
gan Lywodraeth y Cynulliad i ariannu swydd gweithiwr rhan-amser
i hyrwyddo addysg materion yr amgylchedd.
Rydyn ni’n parhau i gael cymorth Cyngor Rhondda Cynon
Taf a newydd gael cymhorthdal ganddyn nhw ar gyfer deunydd
hyrwyddo.

Cliciwch ar gysylltau’r
partneriaid isod i alw heibio i’w gwefannau.