Ein hanes
Fferm fynydd nodweddiadol a gafodd ei chodi lawer o flynyddoedd
yn ôl ydy Canolfan Daerwynno. Roedd pobl yn byw yno
tan yr 1950au. Ar ôl i’r bobl adael, cafodd
y rhan fwyaf o’r adeiladau eu dymchwel heblaw am y
2 adeilad sy gyda ni heddiw. Ynghyd â’r bloc
ty bach a gafodd ei adeiladu yn y 70au, dyma ydy’n
canolfan breswyl.
Dechreuon ni adnewyddu’r adfeilion yn 1995 pan ddaeth
Grwp Gweithgareddau Awyr Agored Cwm Clydach i weithio yma.
Agoron ni’r ganolfan fis Gorffennaf 1997 ar ôl
dwy flynedd o waith caled. Ers i’r ganolfan agor,
rydyn ni wedi gweld nifer yr ymwelwyr yn cynyddu ynghyd
â’r amrywiaeth o weithgareddau sy ar gael. Cafodd
y ganolfan gymhorthdal sylweddol yn 2003 ar gyfer codi craig
ddringo a gwella llwybrau a thraciau yn y goedwig gyfagos.
Roedd nifer yr ymwelwyr a oedd yn dod i’r ganolfan
erbyn 2004 yn golygu bod llawer gormod o waith i’r
gwirfoddolwyr yn unig, felly penderfynodd y grwp gyflogi
gweithwyr rhan-amser yn y ganolfan. Cymorthdaliadau sy’n
talu cyflog y rhain.
Mae modd i’r ganolfan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd
addysg awyr agored i bawb trwy gydol y flwyddyn erbyn hyn.