Cyfleusterau
Mae Canolfan Awyr Agored Daerwynno’n cynnig llety
preswyl sylfaenol. Rydyn ni’n ehangu’r ddarpariaeth
i ddiwallu amrywiol anghenion pobl abl a phobl anabl sy
eisiau bod ynglyn â gweithgareddau hamdden awyr agored.
Y tu mewn i’r prif adeilad mae ystafell fawr ar y
llawr gwaelod sy’n addas ar gyfer coginio a bwyta.
Mae cegin gyda ni hefyd sy’n cynnwys cyllell a ffyrc,
llestri a’r offer coginio angenrheidiol ar gyfer gwyliau
hunan arlwyo. Mae ffwrn Rayburn sy’n llosgi coed ar
gyfer coginio a gwresogi’r adeilad. Mae cwtsh ar gyfer
storio coed (coed tân – firewood) wrth ochr
yr adeilad. Yn ogystal â hynny, mae ffwrn nwy tebyg
i’r rhai sy’n cael eu defnyddio mewn carafán.
Meinciau sy yn yr ystafell yma ac mae’n addas ar gyfer
gwersi, gweithgareddau neu gymdeithasu. Mae ffynnon naturiol
yn darparu dwr oer ac mae’r goleuadau trydan yn cael
eu cynnal gan dyrbin gwynt bach a phaneli solar sy’n
gyfeillgar i’r amgylchedd.
Ar y lloft, mae gwelyau bync ar gyfer 20 o bobl. Mae matiau
ar gael ond rhaid ichi ddod â sach gysgu. Os hoffech
chi dipyn o awyr iach, mae cae gwersylla gyda ni â
lle i tua 12 o bebyll i 2 o bobl yr un. Mae’r cae
gwersylla’n boblogaidd yn ystod yr haf. Rhaid ichi
ddod â’ch pabell eich hun.
Mae’r ganolfan wedi codi craig-ddringo awyr agored
gyntaf yr ardal ac mae dringo talcen y ty yn weithgaredd
poblogaidd hefyd. Mae pwll bywyd gwyllt bach ar ein tir
sy’n arbennig o addas ar gyfer grwpiau iau. Yn ogystal, nawr mae gennyn ni pwll sy'n fwy mewn maint sy'n cael ei ddefnyddio am lawer o wahanol gweithgareddau.
Cliciwch yma
i fynd i frig y dudalen